Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 29 Tachwedd 2018
Amser:
09.15 -
11.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5141
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC David Rees AC |
Tystion: |
Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Steve Davies, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC Neil Hamilton AC, Rhun ap Iorwerth AC a Nick Ramsay AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn briffio technegol ar y Model Buddsoddi Cydfuddiannol gan swyddogion o Lywodraeth Cymru, sef Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; a Steve Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Arloesol.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod strategaeth ariannu cyfalaf Llywodraeth Cymru maes o law.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y gwelliannau arfaethedig y bydd yn eu cyflwyno i'r Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yng Nghyfnod 2, a chytunodd arnynt.
6.1 Cytunodd y Pwyllgor i benodi Ymgynghorydd Annibynnol i gynorthwyo'r Aelodau gyda'u gwaith craffu ariannol ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) sydd i ddod.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at gyrff a ariennir yn uniongyrchol ac at Lywodraeth Cymru yn gofyn am sylwadau ynghylch y cyfarwyddyd a'r arweiniad a ddarperir gan y Pwyllgor wrth iddynt bennu eu hamcangyfrifon.
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.
9.1 Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol.